Mae Llanfihangel Genau’r Glyn, yr hen enw ar y plwyf ac ar ardal Llandre, yn gyforiog o hanes a diwylliant. Mae’n lle hardd a thawel, ac mae ein bywyd gwyllt gyda’r gorau yng nghanolbarth Cymru.

Llandre Church, by Phil Jones
Ar y wefan hon cewch fanylion hanes, amgylchedd a llwybrau’r ardal, yn ogystal â gwybodaeth am brosiectau'r elusen.
Mae’r wefan yn cynnwys cronfa ddata y gallwch ei chwilio o gofnodion bedydd, priodas a marwolaeth eglwys y plwyf, ynghyd ag arysgrifau holl feddau ei dwy fynwent.
● mynwent drawiadol yr eglwys ar lethr serth a choediog – “un o ryfeddodau’r ddaear”, yn ôl TH Parry-Williams
● ywen dwy fil o flynyddoedd oed, un o’r coed hynaf yng ngorllewin Cymru
● Castell Gwallter, castell mwnt-a-beili Normanaidd a ddinistriwyd gan y Cymry
● ffermdy Glanfrêd, safle cartref teuluol mam Edward Llwyd, y naturiaethwr, hynafiaethydd ac ysgolhaig enwog a fu’n allweddol yn sefydlu Amgueddfa’r Ashmolean yn Rhydychen
Mae Treftadaeth Llandre wedi gwneud llawer o waith i drwsio waliau cerrig, cynnal byd natur a rheoli coetiroedd y pentref. Rydym wedi creu nifer o lwybrau ichi eu crwydro i fwynhau ein treftadaeth, gan gynnwys y Llwybr Llên sy’n dathlu traddodiad llenyddol byw y fro.
Treftadaeth Llandre sefydlodd y prosiect arloesol
Llefydd Llonydd, taith sy’n cysylltu dwsin o fannau sanctaidd gogledd Ceredigion.
Rydym yn elusen gymunedol sy’n gweithio ers 2003 i ddiogelu a hyrwyddo’r dreftadaeth unigryw hon.
Porwch drwy’r wefan i ddarganfod mwy amdanom ni, ein gwaith a threftadaeth gyfoethog y fro.
Hoffai Treftadaeth Llandre ddiolch i'r canlynol am ganiatâd i ddefnyddio eu ffotograffau ar y wefan hon: Phil Jones (
http://www.philjonesphotography.com/), Mary Thomas, Annette Williamson a chwmni Countryscape (
http://countryscape.org/)
title?